Language

English

Oriental style Sirloin Steaks served with a mixed vegetable and noodle stirfry.

Stecau Syrlwyn

£Various

Prynu

Dull

  1. Cymysgwch y nionod, garlleg, siwgr, saws soi, gwin Tsineaidd, mwstard a'r olew sesame. Ychwanegwch y stêcs eidion a chymysgwch yn dda. Gorchuddiwch nhw a'u rhoi yn y rhewgell am 2-3 awr fel bod y blasau yn mynd i mewn i'r cig.
  2. Diferwch y stêcs a'u coginio o dan gril poeth neu ar farbeciw am: Gwaedlyd - 5 munud (i gyd) Canolig - 8 munud (i gyd) Wedi coginio'n dda - 12 munud (i gyd)
  3. Sleisiwch y stêcs eidion a'u gweini gyda llysiau cymysg a nwdls wedi eu tro-ffrio.
  4. Ychwanegwch ychydig o'r marinad sydd ar ôl, ond gwnewch yn siwr bod y saws yn cael ei ferwi'n drwyadl cyn ei weini.

Cynhwysion

  • 450g (1lb) stêcs eidion coch syrlwyn neu ffolen
  • 1 nionyn, wedi ei dorri'n fân
  • 2 ewin garlleg, wedi eu malu
  • 30ml (2 lwy fwrdd) siwgr brown tywyll
  • 30ml (2 lwy fwrdd) saws soi
  • 15ml (1 llwy fwrdd) gwin coginio Tsineaidd neu sieri
  • 5ml (1 llwy de) mwstard
  • 15ml (1 llwy de) olew sesame

Ryseitiau Eraill