Language

English

Rolled Brisket

£10.10 per kilo

Prynu

Dull

  1. Twymwch y popty i farc nwy 3, 170°C, 325°F.
  2. Twymwch yr olew mewn sosban fawr, ychwanegwch y darn cig a'i frownio bob ochr, ychwanegwch y garlleg a'r sialóts a'u brownio'n ysgafn.
  3. Rhowch y cyfan mewn dysgl gaserol ddofn, rhowch halen a phupur drosto ac ychwanegwch yr isgell, gwin coch a'r panas. Gorchuddiwch a choginio am 2½ awr yn y ffwrn neu ar yr hob. Ychwanegwch y madarch yn ystod y 30 munud olaf.
  4. Twymwch yr olew a ffriwch y winwnsyn a'r bacwn nes ei fod yn grensiog. Gweinwch gyda'r winwnsyn,bacwn a'r persli wedi eu gwasgaru dros y cig.
  5. Bwytewch gyda thatws hufennog a llysiau gwyrdd tymhorol.

Cynhwysion

  • 1.25kg (2½lb) cig eidion Cymru coch, brisged neu ystlys las, heb yr asgwrn ac wedi ei rolio
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew
  • 2 ewin garlleg, wedi eu gwasgu
  • 10 sialotsyn, wedi eu pilio
  • Halen a phupur
  • 300ml (½pt) isgell eidion
  • 300ml (½pt) gwin coch
  • 2 banasen, wedi eu pilio a'u torri'n dalpiau mawr
  • 175g (6oz) madarch cymysg
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew olewydd
  • 1 winwnsyn, wedi ei dafellu
  • 100g (4oz) bacwn mwg sych, wedi ei dorri'n ddarnau
  • 30ml (2 lwy fwrdd) persli dail fflat, wedi ei dorri'n fras

Ryseitiau Eraill