Language

English

Dull

  1. Rhowch yr holl gynhwysion mewn dysgl fawr a'u cymysgu, gan ofalu bod y past cyrri wedi'i gymysgu'n drwyadl.
  2. Defnyddiwch eich dwylo i rannu'r cymysgedd yn 8. Gwnewch 8 siâp sosej. (Efallai y bydd hyn yn haws os bydd eich dwylo ychydig yn wlyb).
  3. Gwthiwch ffon kebab yn ofalus trwy bob sosej ac yna'i gwasgu a'i siapio i sicrhau ei bod yn sownd wrth y ffon.
  4. Coginiwch o dan y gril neu ar dun pobi mewn ffwrn boeth neu mewn padell ffrio (heb ychwanegu olew). Trowch nhw weithiau nes eu bod yn frown ac yn boeth trwyddynt.
  5. Dip iogwrt a chiwcymber: Cymysgwch iogwrt, ciwcymber, mint ffres a saws tshili melys mewn dysgl fach. Rhowch gaead ar y ddysgl a'i gadw yn yr oergell nes bod y koftas yn barod i'w gweini.

Cynhwysion

  • Ffyn kebab pren - mwydwch y rhain mewn dwˆ r am ryw hanner awr cyn eu defnyddio rhag iddynt losgi
  • 450g mins/briwgig isel mewn braster Cig Oen Cymreig
  • 30ml past cyrri mwyn neu ganolig - yn dibynnu ar eich chwaeth!
  • 1 leim - croen wedi'i gratio a'r sudd
  • 30ml coriander ffres, wedi'i dorri'n ddarnau
  • Pupur du
  • 200g iogwrt naturiol
  • ¼ ciwcymber, wedi'i dorri'n giwbiau bach
  • 15ml mint ffres, wedi'i dorri'n fân
  • 15ml saws tshili melys