Language

English

Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf mewn cola

Brisged Cig Eidion Cymru

£10.65

Prynu

Dull

  1. Twymwch y popty i Farc Nwy 4, 180ºC, 350ºF.
  2. Twymwch yr olew mewn potyn sy’n addas i’r popty. Rhowch y cig ynddo a’i frownio ar bob ochr. Ychwanegwch y tsili, pupur a halen a’r cola. Ar ôl iddo ferwi, rhowch gaead arno a’i roi yn y popty am ryw 2 awr.
  3. Ewch yn ôl i ymlacio’n braf yn yr ardd am ddwyawr.
  4. Tynnwch y cig o’r sudd a’i orchuddio â ffoil. Gadewch am 10 munud cyn torri’r cig.
  5. Codwch unrhyw saim o’r sudd coginio, a’i waredu.
  6. Rhowch y sudd coginio sy’n weddill mewn sosban fach, a’i ferwi. Tywalltwch y sudd dros y cig, a gweini’r cyfan gyda salad tatws newydd cynnes wedi’u cymysgu â darnau o tsilis coch a rhagor o ddail yr haf.

Cynhwysion

  • 1.35kg (3lb) o frisged Cig Eidion Cymru
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o olew
  • 1 tsili coch, heb yr hadau, wedi’i dorri’n ei hanner
  • Pupur a halen
  • 600ml (1peint) o gola (nid deiet)

Ryseitiau Eraill